Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn darparu tystiolaeth i’r Pwyllgor am gynigion cyllideb rhaglenni Cymunedau a Phlant y dyfodol fel yr amlinellwyd yn y Gyllideb Ddrafft Fanwl a gyflwynwyd ar 24 Hydref 2017. Er gwybodaeth, mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad o’r ffigurau Cyllideb Ddrafft perthnasol ar gyfer Prif Grŵp Gwariant Cymunedau a Phlant yn ôl Maes y Rhaglen Wariant, Gweithredu a Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL).

Tablau Ariannol

O fewn y Prif Grŵp Gwariant Cymunedau a Phlant cyffredinol, yr elfennau penodol ar gyfer y Pwyllgor yw Cymunedau, Cydraddoldeb, Tai, Adfywio a Diogelwch Cymunedol. Mae’r cyllidebau ar gyfer yr elfennau hyn wedi’u crynhoi yn y tablau isod.

 

 

 

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 (Mehefin 2017) £,000

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017-18 £’000

Newid

£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19

£’000

Newid

£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £’000

Newid £’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2020-21 £’000

Refeniw

189,510

189510

24,527

214,037

126,634

340,671

 

 

Nid Arian Parod

500

500

-500

0

0

0

 

 

Cyfanswm Adnoddau

190,010

190,010

24,027

214,037

126,634

340,671

 

 

 

 

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 (Mehefin 2017) £,000

Cynlluniau 2018-19 yn ôl Cyllideb Derfynol 2017-18 £’000

Newid

£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £’000

Cynlluniau 2019-20 yn ôl Cyllideb Derfynol 2017-18 £’000

Newid

£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £’000

Cynlluniau 2020-21 yn ôl Cyllideb Derfynol 2017-18 £’000

Newid

£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2020-21 £’000

Cyfalaf Traddodia-dol

243,108

233,896

143,808

377,704

179,982

116,942

296,924

184,319

108,983

293,302

FTR

113,337

98,748

0

98,748

73,067

0

73,067

44,700

0

44,700

Cyfanswm Cyfalaf

356,445

332,644

143,808

476,452

253,049

116,942

369,991

229,019

 108,983

338,002

 

 

 

 

 

 

Trosolwg o’r Gyllideb

 

Mae’r gyllideb hon yn cynnwys cynlluniau gwariant ar gyfer 2018-19, ynghyd â chyllidebau refeniw dangosol ar gyfer 2019-20 a chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21. Dyma ail gyllideb tymor presennol y Llywodraeth a thrydedd flwyddyn setliad Adolygiad Gwariant cyfredol Llywodraeth y DU.

 

Mae penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi creu ansicrwydd. Sefydlodd Llywodraeth Cymru dîm penodol i gydgysylltu materion y trefniadau pontio Ewropeaidd, sy’n gweithio’n agos â’r tîm cyfredol ym Mrwsel ac adrannau polisi. Gan fod effaith Brexit mor bellgyrhaeddol mae llawer o adrannau Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu eu hadnoddau cyfredol hefyd ar gyfer ymdrin â materion sy’n ymwneud â Brexit yn benodol. Mae ail-flaenoriaethu adnoddau cyfredol yn ddull pwysig a chyfrifol ac yn un y bydd angen ei ddefnyddio ymhellach wrth i fwy o wybodaeth am newidiadau i’r dyfodol gael ei darparu. 

 

Mae cyni’n parhau i fod yn nodwedd sy’n diffinio gwariant cyhoeddus. Mae’r cyfnod hir hwn o ostyngiadau parhaus wedi cael effaith ar bob gwasanaeth, hyd yn oed y rhai yr ydym wedi llwyddo i ddarparu rhywfaint o amddiffyniad iddynt.

 

Rwy’n cydnabod yr angen parhaus i wneud dewisiadau anodd o ystyried y pwysau parhaus ar arian cyhoeddus ac ar lefel y cyllid sydd ar gael i’r Prif Grŵp Gwariant hwn. Mae’r cynigion cyllideb hyn yn adlewyrchu fy ymrwymiad parhaus i ddiogelu a blaenoriaethu buddsoddiad sy’n cefnogi mesurau ataliol. Mae’r penderfyniadau gwario nid yn unig wedi ystyried y ffordd orau o fodloni’r galw cyfredol am wasanaethau ond hefyd wedi canolbwyntio ar gefnogi ymyriadau sy’n gallu atal problemau rhag codi yn y dyfodol. Mae’r dull ataliol hwn yn rhan bwysig o fy ngwaith cynllunio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, nawr ac yn y dyfodol.

 

O gychwyn fy mharatoadau Cyllideb rwyf wedi canolbwyntio ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion cynyddol meysydd gwasanaethau allweddol yn y Prif Grŵp Gwariant yn wyneb cyllideb heriol arall. Dros flynyddoedd olynol mae blaenoriaethu gwariant ataliol wedi bod yn ffordd o osgoi ymyriadau mwy costus yn y dyfodol a gwella safon bywydau pobl dros y tymor hir.

 

Mae dadansoddiad o dystiolaeth ar dueddiadau cyfredol ac amcanestyniadau wedi bod yn sail i ffocws ar y meysydd mwyaf allweddol ar gyfer diwallu anghenion poblogaeth Cymru ac wedi bod yn sail i’r cynigion gwariant hyn.

 

Y Strategaeth Genedlaethol

 

Ym mis Medi cyhoeddodd y Prif Weinidog y strategaeth genedlaethol “Ffyniant i Bawb”. Mae’n cyflwyno nodau’r Llywodraeth ac yn egluro sut rydym am i’r Llywodraeth a phartneriaid cyflawni fod yn rhan o’r dull newydd o gyflawni blaenoriaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni i gyflwyno’r newidiadau pwysig hyn i’n ffordd o weithio.

 

Mae’r strategaeth yn cyflwyno 12 o amcanion llesiant diwygiedig a’r camau rydym yn eu cynnig i’w cyflawni. Ynghyd â’r datganiad llesiant a gyhoeddwyd gyda’r strategaeth mae’r amcanion hyn yn nodi’r meysydd lle gall Llywodraeth Cymru wneud y cyfraniad mwyaf at saith nod llesiant Cymru ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer partneriaethau cryf ag eraill.

 

Mae pob Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i wella sut rydym yn gwneud penderfyniadau am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw sicrhau ein bod ni’n adlewyrchu’r egwyddor datblygu cynaliadwy a nod ein cynlluniau gwariant yw sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau tymor byr a thymor hir. Rydym yn cydnabod yr angen i gydweithio â phartneriaid ac i ddefnyddio’n hadnoddau cyfunol yn effeithiol i gynllunio ar gyfer y dewisiadau anodd sydd o’n blaenau.

 

Blaenoriaethau ar gyfer fy mhortffolio

 

Adfywio economaidd a llesiant yw’r blaenoriaethau ar gyfer fy mhortffolio. Roedd hi’n anochel bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn wyneb cyni er mwyn sicrhau’r arbedion angenrheidiol yn 2018-19, a 2019-20. Fy mlaenoriaeth oedd diogelu gwasanaethau ataliol rheng flaen yn cynnwys cyllid ar gyfer Cefnogi Pobl, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Byddaf yn buddsoddi £1 miliwn arall ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn 2018-19 a 2019-20 i barhau i ddarparu cymorth brys i ddiogelu iechyd a llesiant rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed wrth i alw gynyddu yn sgil cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn llawn, a £500,000 arall bob blwyddyn tuag at y gwaith pwysig i gefnogi rhai sydd wedi goroesi cam-drin domestig a lleihau achosion ohono.

 

Rwy’n dyrannu £14.9 miliwn o gyfalaf ychwanegol dros dair blynedd (£6 miliwn yn 2018-19, £4.5 miliwn yn 2019-20 a £4.4 miliwn yn 2020-21) i gefnogi’r gwaith o adfywio cyfleusterau cymunedol; bydd hyn yn helpu i greu cymunedau cryf. Byddaf yn buddsoddi mewn prosiectau dan arweiniad cymunedau sy’n datblygu neu’n gwella cyfleusterau cymunedol fel hybiau cymunedol, helpu i drechu tlodi a gwella cyfleoedd i ddinasyddion lleol.

 

O ganlyniad i gytundeb y Gyllideb gyda Phlaid Cymru, rwy’n falch o fod wedi gallu canfod £10 miliwn i gynnal y Rhaglen Cefnogi Pobl sy’n werth £124 miliwn, sy’n golygu nad oes toriadau i’r rhaglen yn y naill flwyddyn na’r llall o’r gyllideb. Rwyf hefyd yn buddsoddi £10 miliwn arall mewn digartrefedd, £6 miliwn bob blwyddyn drwy’r Grant Cynnal Refeniw i alluogi awdurdodau i gyflawni ac adeiladu ar eu gwaith llwyddiannus yn atal digartrefedd, a £4 miliwn arall ar gyfer gwaith ar atebion tymor hir i broblemau digartrefedd a chysgu ar y stryd.

 

Mae £339.6 miliwn o gronfeydd wrth gefn wedi’u rhyddhau dros 2018-19, 2019-20 a 2020-21 i gefnogi’r rhaglen £1.4 biliwn i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod modd parhau i ganolbwyntio ar ddarparu tai cymdeithasol a chynyddu argaeledd perchnogaeth tai cost isel. Bydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn helpu yn ein gwaith i atal problem digartrefedd ac amrywiaeth eang o broblemau personol a chymdeithasol i bobl agored i niwed.

 

Rwyf am i’r broses o brynu cartref fod yn fwy fforddiadwy drwy gynlluniau Helpu i Brynu, Rhentu i Brynu a rhanberchnogaeth. Byddaf hefyd yn dod â phrynu cartref mewn ardal wledig cost uchel o fewn cyrraedd pobl leol drwy Cymorth Prynu. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o ddarparu atebion tai priodol ar gyfer ein cymunedau amrywiol ledled Cymru. Rwy’n buddsoddi £3.7 miliwn arall yn y Grant Cyllid Tai yn 2018-19 a £1.7 miliwn arall yn 2019-20 i helpu i roi hwb o £250 miliwn i’r sector tai. Mae’r holl raglenni hyn yn cefnogi llesiant a ffyniant economaidd ein cymunedau.

 

Rwyf wedi cymhwyso egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth geisio dod o hyd i arbedion. Byddaf yn ddidrugaredd wrth barhau i ddileu aneffeithlonrwydd o fewn fy adran fy hun, fel y gwn y mae awdurdodau lleol wedi bod yn ei wneud ac y byddant yn parhau i’w wneud. Yn 2018-19 rwyf am sicrhau y byddwn yn fy adran yn mynd i’r afael ag aneffeithlonrwydd gweinyddol a dyna pam rwyf wedi ymrwymo i ddod o hyd i £2.5 miliwn o arbedion gan ddiogelu cyllid rheng flaen a’r gwasanaethau maent yn eu cefnogi yr un pryd.

 

Gweithio gyda phartneriaid

 

Rwyf am i bob awdurdod lleol allu ymateb i anghenion eu poblogaeth, i hyrwyddo eu llesiant, i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Felly rwy’n annog pob bwrdd gwasanaeth cyhoeddus ac awdurdod lleol ledled Cymru i fynd ati i ailgynllunio gwasanaethau ac rwyf am ddarparu’r hyblygrwydd cyllido angenrheidiol iddynt allu gwneud hyn.

 

Er mwyn cefnogi hyn, yn amodol ar ymgysylltu, rwy’n ystyried cyflwyno Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth newydd i ddisodli’r ffrydiau cyllido niferus cyfredol. Ar hyn o bryd mae yna faich gweinyddol a chydymffurfio’n gysylltiedig â phob grant a byddwn yn ceisio dileu hyn er mwyn gallu sicrhau arbedion. Gallai’r newid hwn greu amgylchedd a fydd yn grymuso awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio ar sail anghenion eu dinasyddion.

 

Gallai creu un grant olygu y bydd yna rai heriau yn ogystal â llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd angen mwy o atebolrwydd i gefnogi’r hyblygrwydd cynyddol dan ystyriaeth. Bydd y dulliau ar gyfer hyn yn cael eu datblygu gyda phartneriaid allweddol i sicrhau ein bod ni’n cael hyn yn iawn yn strategol a gweithredol. Bydd grŵp bach o awdurdodau lleol ac un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn treialu’r dulliau hyblyg hyn yn 2018-19. Bydd yn gyfle i ddysgu gan ei gilydd cyn ehangu ymhellach yn 2019-20 o bosibl. Yn y cyfamser, bydd pob awdurdod lleol yn gallu elwa ar fwy o hyblygrwydd i symud cyllid rhwng grantiau.

 

Rwy’n hyderus y gallai’r cynigion hyn, a ddatblygwyd ar y cyd, liniaru effeithiau cyni a lleihau effaith y £16 miliwn o arbedion sydd eu hangen dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Drwy’r dull hwn byddaf yn ceisio rhyddhau creadigrwydd ac arloesedd mewn awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddod o hyd i atebion i broblemau lleol tymor hir. Bydd y dull hwn yn adeiladu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddiwygio llywodraeth leol, gan sicrhau mwy o gyfranogiad mewn cymdeithas sifil a democratiaeth.

Lleihau Tlodi

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am drechu tlodi ac mae’n arwain ar gydgysylltu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo cyfle economaidd i bawb. Mae cefnogi economi gref sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy hygyrch i bawb yn rhan sylfaenol o’n dull o sicrhau ffyniant i bawb. Mae’r dystiolaeth yn glir mai gwaith sy’n talu’n dda yw’r llwybr gorau i droi cefn ar dlodi, a’r amddiffyniad gorau rhag tlodi i’r rhai sydd mewn perygl.

Rydym yn mabwysiadu dull llywodraeth gyfan o drechu tlodi, yn cynnwys tlodi plant. Gofynnwyd i bob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog nodi cyfleoedd i gydweithio i greu’r amodau i Gymru fod yn wlad lwyddiannus, lewyrchus a ffyniannus o ran ffyniant ariannol yn ogystal ag iechyd a llesiant unigolion.

Mae yna gyfnod anodd o’n blaenau. Bydd rhaglen diwygio lles a mesurau cyni parhaus Llywodraeth y DU yn creu heriau sylweddol tra bod penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi creu ansicrwydd mawr. Fodd bynnag, mae yna lawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod mai tlodi sydd wrth wraidd llawer o anawsterau a wynebir gan deuluoedd sydd â heriau a’r rhai sydd ar ffiniau gofal. Yn gyson, mae ymchwil yn dangos perthynas gref iawn rhwng cyfraddau amddiffyn plant a phlant mewn gofal yng Nghymru ac amddifadedd mewn ardaloedd lleol. Mae gwaith gwasanaethau cymdeithasol plant wedi’i grynhoi yng nghymunedau tlotaf Cymru yn aml. Mae angen i leihau tlodi fod yn ganolog i waith atal ac ymyrraeth gynnar, yn cynnwys gwaith cymdeithasol a chymorth ehangach i rieni. Gall buddsoddi i gefnogi teuluoedd agored i niwed ar ffiniau gofal, lle mae’n ddiogel a phriodol gwneud hynny, helpu i leihau nifer y plant mewn gofal, lleihau baich costau ar awdurdodau lleol a rhyddhau adnoddau yn y system i ganolbwyntio ar gamau gweithredu ataliol a chymorth gwell i blant sydd yn derbyn gofal.

Mae trechu tlodi yn elfen hanfodol o’m portffolio. Ein dull yw mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi, gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle gallwn gael yr effaith fwyaf – ar flynyddoedd cyntaf allweddol bywyd, ac ar wella cyflogadwyedd pobl.

Cyflogadwyedd

Cyflogadwyedd ar gyfer y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur yw un o brif flaenoriaethau fy mhortffolio. Mae’r rhaglenni Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn llwyddo’n effeithiol iawn o ran helpu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur, mynd i’r afael â rhwystrau cymhleth a manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. Mae Cymunedau am Waith yn cefnogi unigolion sy’n byw yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ac mae Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn ymestyn y cymorth hwn i rieni sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd hynny. Yn 2018, byddaf yn cyflwyno rhagor o gymorth drwy’r Grant Cyflogadwyedd, a elwir yn Cymunedau am Waith a Mwy erbyn hyn, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r Rhaglen Esgyn a darparu cymorth i’r rhai mewn tlodi.

Mae gan y rhaglenni hyn gyfraniad pwysig i’w wneud o ran sicrhau ein bod ni’n cyflawni’n hymrwymiad i weithio gyda’r holl grwpiau a warchodir i atal gwahaniaethu a sicrhau cyfleoedd i bawb. Maent yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu gan gefnogi ein hymrwymiad yn Ffyniant i Bawb i ddarparu allgymorth cymunedol wedi’i deilwra i’r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Mae gwaith sylweddol yn digwydd ar draws y llywodraeth i sicrhau cysondeb â’r broses o ddatblygu Cynllun Cyflogadwyedd i ddarparu llwybrau clir i’r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i allu manteisio ar ddarpariaeth sgiliau prif ffrwd.

Cymunedau am Waith – rhaglen sy’n canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a chynyddu cyflogadwyedd oedolion economaidd anweithgar ac oedolion sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir ac sydd â rhwystrau cymhleth o ran cael gwaith. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Canolfan Byd Gwaith mewn 52 ardal gyflawni ledled Cymru. Mae gan bob ardal dîm cyflawni lleol sy’n cael ei gyflogi gan y Cyrff Cyflawni Arweiniol, ynghyd â chynghorwyr ychwanegol sydd ar secondiad i’r rhaglen o’r Ganolfan Byd Gwaith. Bydd cyfanswm o £71 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cymorth cyflogaeth yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru hyd at fis Rhagfyr 2020.

Ar ddiwedd mis Medi 2017, roedd Cymunedau am Waith wedi darparu cymorth cyflogaeth i 11,632 o bobl ac wedi helpu 3,221 i gael cyflogaeth ledled Cymru. Disgwylir i’r gyfradd gyflawni gyflymu dros y blynyddoedd nesaf i gyrraedd y targed o 10,000 o bobl mewn cyflogaeth erbyn 2020.

 

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) – prosiect £13.5 miliwn a ariennir ar y cyd gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n targedu rhieni economaidd anweithgar 25 oed a throsodd, a rhieni 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Bydd pob rhiant sydd wedi cofrestru ar PaCE yn ystyried mai gofal plant yw’r prif rwystr i fanteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae yna rwydwaith o 43 o gynghorwyr PaCE sy’n gweithio mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru, yn helpu cyfranogwyr i oresgyn eu rhwystrau a symud tuag at, ac i gyflogaeth gynaliadwy. Mae PaCE yn adeiladu ar y gwasanaethau a gynigir drwy Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ac yn gweithredu y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, i ategu prosiectau eraill fel Cymunedau am Waith a’r Rhaglen Esgyn.

 

Nod PaCE yw gweithio gyda 8,278 o rieni dros oes y prosiect, a helpu o leiaf 20% (1,656) o’r rhieni hynny i waith. Ar ddiwedd Medi 2017, roedd y prosiect wedi gweithio gyda2,339 o gyfranogwyr a helpu 665 i gael gwaith.

 

Rhaglen Esgyn– adlewyrchu ymrwymiad i ddarparu 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl sy’n byw ar aelwydydd heb waith. Mae cyllid o tua £1.2 miliwn y flwyddyn ar gael i gyllido timau bach o fentoriaid cyflogaeth – dau ym mhob ardal fel arfer – sy’n gweithio’n ddyfal i nodi a chefnogi pobl sy’n byw ar aelwydydd heb waith tymor hir i oresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu i fanteisio ar hyfforddiant a chael gwaith.

 

Ar ddiwedd Medi 2017, roedd Rhaglen Esgyn wedi darparu 4,969 o gyfleoedd, yn cynnwys cefnogi 1,043 o bobl o aelwydydd heb waith i gael gwaith, gan ei roi ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged cyffredinol erbyn diwedd eleni.

 

Cymunedau am Waith a Mwy – Ym mis Ebrill 2018 byddaf yn cyflwyno Cymunedau am Waith a Mwy i ddatblygu’r seilwaith hwn, gan gefnogi llwyddiant parhau Cymunedau am Waith a’r Rhaglen Esgyn. Bydd hyn yn darparu bron £12 miliwn y flwyddyn o gymorth i alluogi awdurdodau lleol i wella cymorth ar gyfer cyflogaeth gan ganolbwyntio ar y rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd yn eu galluogi i weithio y tu allan i ffiniau daearyddol tynn cyfredol Cymunedau yn Gyntaf hefyd, gan ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau cymorth ledled Cymru, yn cynnwys y tair ardal awdurdod lleol nad ydynt yn cael budd o Gymunedau am Waith ar hyn o bryd - Ceredigion, Powys a Sir Fynwy. Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar weithredu’r model mewn trafodaeth gydag awdurdodau lleol. Nodwyd pedwar awdurdod lleol fel mabwysiadwyr cynnar ac mae disgwyl i’r model newydd fod ar waith yn yr ardaloedd hynny o 1 Ionawr 2018 ymlaen, gyda’r ardaloedd eraill i ddilyn erbyn 1 Ebrill 2018.

 

Cynhwysiant Ariannol

 

Mae Cynhwysiant Ariannol yn parhau i fod yn elfen hanfodol yng ngwaith Llywodraeth Cymru i leihau tlodi a gwella llesiant pobl sy’n byw yng Nghymru. Drwy ddarparu mynediad i gyllid fforddiadwy drwy gymorth ar gyfer undebau credyd a mynediad i wybodaeth annibynnol a dibynadwy drwy gyllido gwasanaethau cynghori, rydym yn helpu pobl i ymdrin â’u problemau a chymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau, sy’n gallu arwain at lai o ddibyniaeth ar y wladwriaeth drwy atal problemau rhag gwaethygu. Cynhaliwyd gwerthusiadau diweddar ar gyllid cynghori i ddangos hyn. Gellir gweld gwerth gweithgareddau cynhwysiant ariannol, yn enwedig gwybodaeth a chyngor fel mesurau ataliol, yn eu rôl strategol gynyddol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, tai a digartrefedd, yn ogystal â rheoli ariannol fel ffordd o atal dyled.

 

Diwygio Lles

 

Mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif y bydd incwm aelwydydd yng Nghymru’n gostwng tua £600 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i’r newidiadau mewn trethi a diwygiadau i fudd-daliadau i’w cyflwyno rhwng  2015-16 a 2019-20. Bydd aelwydydd Cymru’n colli 1.6 y cant o’u hincwm net ar gyfartaledd neu £459 y flwyddyn o gymharu ag 1.3 y cant neu £455 y flwyddyn yn y DU yn ei chyfanrwydd.

 

Bydd aelwydydd incwm is, yn enwedig y rhai â phlant, yn colli llawer mwy ar gyfartaledd (tua 12 y cant o incwm net). Ni fydd aelwydydd sy’n well eu byd a phensiynwyr yn cael eu heffeithio gymaint nac yn cael unrhyw fudd o’r newidiadau hyn.

 

Bydd teuluoedd mawr yn cael eu taro’n arbennig o galed, gan golli tua £7,750 y flwyddyn neu 20 y cant o incwm net ar gyfartaledd. Y rheswm pennaf am hyn yw’r cyfyngiad i ddau blentyn yn elfen plant credydau treth a’r Credyd Cynhwysol.

 

Ar gyfartaledd, mae aelwydydd sydd â pherson anabl yn colli llawer mwy na’r rhai lle nad oes person anabl (2.4 y cant neu £618 o gymharu ag 0.9 y cant neu £272 y flwyddyn). Mae’r Sefydliadau Astudiaethau Cyllid yn disgwyl i’r newidiadau hyn gynyddu nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi yng Nghymru.

 

Cronfa Cymorth Dewisol

 

Er nad yw’r cymorth mae’r Gronfa’n ei ddarparu yn mynd i’r afael â thlodi nac yn ei leihau mae’n lliniaru rhai o effeithiau diwygiadau lles yn y tymor byr drwy ddarparu taliadau argyfwng i’r rhai sydd heb unrhyw le arall i droi am gymorth brys. Mae’r Gronfa’n darparu cymorth i bobl a allai fod yn agored i niwed mewn argyfyngau ac yn helpu i gynnal bywyd annibynnol drwy helpu rhywun i ail-ymgartrefu yn y gymuned neu barhau i fyw’n annibynnol yn ei gartref, drwy ddyfarnu nwyddau cartref hanfodol ar gyfer hyn.  Ers lansio’r Gronfa yn 2013 dyfarnwyd dros £28.5 miliwn, gan gefnogi dros 120,000 o ymgeiswyr mewn angen. Mae £1 miliwn arall wedi’i ddarparu i’r rhaglen yn 2018-19 a 2019-20.

 

Cyllid Grant Undebau Credyd

 

Gall undebau credyd wneud cyfraniad pwysig o ran helpu’r rhai a all fod yn byw mewn tlodi i reoli eu harian, ac felly maent yn bartneriaid allweddol yn y gwaith o gyflawni’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Mae cyllid o £422,000 ar gael i undebau credyd yn 2017-18; bydd cyllid yn parhau ar yr un lefel yn 2018-19. Dyfernir cyllid ar sail grant cystadleuol, felly mae’n cyd-fynd yn fwy uniongyrchol ag ymrwymiadau’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ac yn cefnogi’r nodau a nodwyd yn Strategaeth Undebau Credyd Cymru, a gyhoeddwyd fis Mawrth y llynedd. Mae un ar hugain o brosiectau’n cael eu datblygu ledled Cymru - gan gyflawni gwaith allgymorth pwysig mewn cymunedau, er enghraifft gweithio mewn ysgolion i ddatblygu cynlluniau cynilo mewn ysgolion ac mewn carchardai i feithrin arferion cynilo yn ogystal â phrosiectau i gynyddu aelodaeth drwy gyflogres gweithwyr.

 

Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn egwyddorion allweddol sy’n sail i waith yr undebau credyd ac felly mae torri cylch amddifadedd drwy ddulliau ataliol, gan fynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt ddatblygu yr un pryd, yn rhywbeth mae undebau credyd mewn sefyllfa ddelfrydol i’w gyflawni. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau ar sail cydweithio ac integreiddio, gydag undebau credyd yn rhannu arferion gorau ac yn cydweithio i sicrhau canlyniadau ar nifer o brosiectau.

 

Gwasanaethau Cynghori

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwelliannau cynaliadwy i iechyd a llesiant holl bobl Cymru ac yn cydnabod bod gan wybodaeth a chyngor ar lesiant cymdeithasol rôl bwysig o ran sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle teg a chyfartal mewn bywyd. Mae £5.97 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddarparu i wasanaethau cynghori i ddarparu prosiect Cyngor Da, Byw’n Well, prosiect Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen a phrosiect Canlyniadau a Rennir Cymunedau yn Gyntaf.

 

Mae pum sefydliad (Cyngor ar Bopeth Cymru mewn cydweithrediad â Shelter Cymru a Snap Cymru, Age Cymru a Tenovus Gofal Canser) yn darparu gwasanaethau i gefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud â budd-daliadau lles; dyledion; gallu ariannol; tai a gwahaniaethu. Mae’r sefydliadau hyn yn helpu sector cynghori Cymru i gynnal ei allu arbenigol i gynghori ar les cymdeithasol ac yn ystod 2016-17 cyfrannodd cyllid Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen at sefydliadau gan ymateb i dros 48,000 o geisiadau am wybodaeth a chyngor, gan sicrhau dros £12.7 miliwn mewn enillion incwm.

 

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi llwyddo i ymgorffori model cyngor cyffredinol ar les cymdeithasol sy’n hyrwyddo mynediad i wasanaethau cynghori’n gadarnhaol ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Gall y cyngor cyffredinol hwn helpu i atal sefyllfaoedd pobl rhag datblygu’n argyfwng, a fyddai’n gofyn am ymyriadau mwy cymhleth. Ers dechrau Cyngor Da, Byw’n Well yn 2012 mae’r prosiect wedi darparu cyngor a chymorth i dros 93,500 o bobl ac wedi helpu pobl i hawlio budd-daliadau lles o dros £101.5 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn gallu cael gafael ar gyngor annibynnol am ddim ar faterion cyfraith lles cymdeithasol yn cynnwys dyledion, budd-daliadau lles, tai a rheoli arian. Fodd bynnag, mae rhaglen barhaus Llywodraeth y DU i drawsnewid y system nawdd cymdeithasol, yn enwedig cyflwyno Gwasanaeth Llawn y Credyd Cynhwysol ledled Cymru, yn parhau i gynyddu’r galw am wasanaethau cynghori. Er mwyn helpu’r sector i fodloni’r galw hwn mae swyddogion yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu dull mwy cyfannol a chydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau cynghori, gyda’r nod o sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i ymrwymo i gynnal hawliau llawn i aelwydydd dderbyn cymorth gyda’u biliau treth gyngor drwy ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. O ganlyniad, mae tua 300,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel yng Nghymru’n parhau i gael eu diogelu rhag unrhyw gynnydd yn eu hatebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor, gyda 220,000 yn parhau i beidio â thalu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Y Trydydd Sector

Ad-drefnodd Cefnogi Trydydd Sector Cymru (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol) waith yn ei gynllun busnes ar gyfer 2017-18. Mae wedi defnyddio’r cyllid a ddarparwyd drwy gyllid craidd Cefnogi Trydydd Sector Cymru (£4.5 miliwn yn 2017-18) i ddatblygu amrywiaeth o welliannau i’r gwasanaethau mae’n eu darparu i wirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol. 

Ymysg pethau eraill bydd y cyllid craidd yn darparu’r cymorth canlynol yn ymwneud â chodi arian erbyn diwedd y flwyddyn:

·         Nifer y bobl a dderbyniodd gymorth drwy gyngor ar gyllid – 7,445

·         Y cyllid a dderbyniodd grwpiau yn ystod y cyfnod - £17.3 miliwn

·         Nifer y rhai ar gyrsiau hyfforddi – 4,590

Er bod Cefnogi Trydydd Sector Cymru’n cynnal mynediad i wybodaeth a chyngor ar godi arian, mae hwn yn un o’r meysydd lle gellid gwneud mwy a bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru i wella nifer ac ansawdd y ceisiadau am arian o Gymru i Ymddiriedolaethau a Sefydliadau elusennol y tu allan i Gymru.

 

Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Mae gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant gyfraniad i’w wneud o ran cyflawni ein hymrwymiad i gynorthwyo plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches i integreiddio i gymunedau ledled Cymru. Mae Cymru’n barod i gyflawni ei hymrwymiad i gynnig lleoliadau a chroesawu plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches sy’n dod i’r DU o dan gynllun Dubs. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £410,000 i gefnogi plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.

Mae Rhaglen Hawliau Ceiswyr Lloches yn darparu cyngor a chymorth eiriolaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan gynghrair o saith sefydliad, pob un â hanes llwyddiannus o gefnogi’r unigolion hyn yng Nghymru. Bydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru’n arwain y gynghrair, gyda chefnogaeth gan  Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), BAWSO, Asylum Justice, Tros Gynnal Plant, Alltudion ar Waith and City of Sanctuary.

Bydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, EYST a BAWSO yn darparu gweithwyr achos yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam i gynnig gwybodaeth arbenigol am gymorth i geiswyr lloches, tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyflogaeth, bwlio, troseddau casineb, gwahaniaethu ac amddifadrwydd. Bydd BAWSO hefyd yn cefnogi’r rhai sy’n profi neu mewn perygl o drais ar sail rhywedd neu Gaethwasiaeth Fodern.

Bydd Tros Gynnal Plant yn darparu cymorth eiriolaeth i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, gan eu cefnogi drwy’r broses asesu oedran a’u helpu i gael cymorth priodol.

Bydd Asylum Justice yn darparu gweithiwr achos cyfreithiol i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol arbenigol mewn perthynas â’u cais am loches. Bydd canolfan galw heibio’n cael ei hagor yn Abertawe yn ogystal â’r un yng Nghaerdydd a bydd gwasanaethau allgymorth ar gael ar y rhyngrwyd i weddill Cymru.

Bydd City of Sanctuary ac Alltudion ar Waith yn cynnal fforwm eiriolaeth i ddarparu cyfleoedd i bobl nodi materion sy’n destun pryder a chyflwyno’r achos dros newidiadau cadarnhaol. Byddant hefyd yn cefnogi Grwpiau Siaradwyr Sanctuary i rannu profiadau o noddfa gyda chynulleidfaoedd cyhoeddus a’r cyfryngau.

Bydd pob partner yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ac yn ceisio meithrin perthynas dda rhwng ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’r gymuned ehangach. Bydd y Rhaglen yn cael ei hategu gan fonitro chwarterol gan Dîm Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

Bydd y consortiwm yn gweithio’n agos â Chynghrair Ffoaduriaid Cymru hefyd, sy’n cynnwys tua deg ar hugain o sefydliadau (yn cynnwys aelodau’r consortiwm eu hunain), i sicrhau bod y Rhaglen Hawliau Ceiswyr Lloches yn cael ei threfnu i gyd-fynd mor agos â phosibl â mathau cyfredol eraill o gymorth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Mae’r Grant Atal Digartrefedd yn darparu tua £160,000 i Gyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd i gefnogi canlyniadau gwell ar gyfer ffoaduriaid newydd yn ystod y cyfnod ‘Symud Ymlaen’.

 

Trefniadau cyllido cynghorwyr trais domestig annibynnol

Nid yw’r gwaith cyfredol o newid tuag at fodel cyllido a chomisiynu rhanbarthol yn cynnwys unrhyw gynigion i newid y trefniadau cyllido ar gyfer cynghorwyr cam-drin domestig annibynnol; mae hynny’n fater i awdurdodau lleol.

Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Ym mis Mehefin, dywedodd Rhian Bowen-Davies, y Cynghorydd Cenedlaethol ei bod yn bwriadu rhoi’r gorau iddi a bydd Rhian yn gadael ei swydd yn ffurfiol yn ddiweddarach yn y mis hwn (Hydref 2017). Mae’r trefniadau ar gyfer penodi Cynghorydd Cenedlaethol newydd yn mynd rhagddynt yn dda ac mae swyddogion yn gweithio i sicrhau bod yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl i Rhian adael, er bod hyn yn amodol ar brosesau a chliriadau angenrheidiol penodiadau cyhoeddus.

Plant sy’n Derbyn Gofal

Mae ein rhaglen ar gyfer gwella canlyniadau i blant wedi’i seilio ar leihau annhegwch; yn benodol drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau lles plant a dileu’r gwahaniaeth o ran cyflawni canlyniadau llesiant rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u cymheiriaid nad ydynt yn derbyn gofal, fel bod y ddau grŵp yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd. Enghraifft o hyn fyddai ein cyd-strategaeth addysg a gwasanaethau cymdeithasol ‘Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru’. Mae’r strategaeth eisoes yn dangos canlyniadau gwell mewn cyrhaeddiad addysgol yn y rhan fwyaf o gyfnodau allweddol. Yng Nghyfnod Allweddol 4 yn haf 2016 cyflawnodd 23% o blant sy’n derbyn gofal drothwy cynhwysol Lefel 2 (5 TGAU Gradd A* - C yn Gymraeg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg), sy’n gynnydd o 6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Eleni, derbyniodd Llywodraeth Cymru £20 miliwn arall o gyllid canlyniadol o Gyllideb Gwanwyn y DU ar gyfer gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol. Dyrannwyd £8 miliwn o’r gyllideb honno i leihau nifer y plant sy’n mynd i ofal. Cytunwyd ar y gyfres o flaenoriaethau isod rhwng gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet:

·         £5 miliwn o fuddsoddiad i ehangu gwasanaethau ar ffiniau gofal awdurdodau lleol

·         £850,000 i gyflwyno’r prosiect Adlewyrchu ledled Cymru gyda’r nod o leihau nifer y plant sy’n mynd i ofal drwy dorri’r cylch o feichiogrwydd ailadroddus ac achosion gofal rheolaidd

·         £1.625 miliwn i gefnogi gadawyr gofal i gael dyfodol llwyddiannus ac i fyw’n annibynnol drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i gynlluniau hyfforddeiaeth/lleoliad gwaith awdurdodau lleol ac ymestyn darpariaeth cynghorwyr personol hyd at 25 oed

·         £400,000 i weithredu’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol

·         £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu

 

Yn ogystal, cyhoeddwyd Cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn gynharach eleni. Mae’r Gronfa hon yn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ariannol i adawyr gofal fel y gallant fanteisio’n llwyddiannus ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant, gan wella eu cyfleoedd o gael bywydau annibynnol.

 

 

Eiriolaeth

 

Gyda’n partneriaid rydym wedi datblygu Dull Cenedlaethol o Eirioli Statudol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant mewn angen ac unigolion penodedig eraill. Mae hyn yn golygu hawliau ac arferion da cyson wrth gomisiynu, darparu a’r ymwybyddiaeth o ddarpariaeth eiriolaeth statudol yng Nghymru. Bydd gweithredu’r Dull Cenedlaethol yn costio tua £1.1 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu hyd at £550,000 i Fentrau Cydweithredol Rhanbarthol Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r cynnig yn  llawn; bydd awdurdodau lleol yn ariannu’r gweddill.

 

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu contract dwy flynedd, gwerth £550,000 y flwyddyn, i Pro-Mo-Cymru ar gyfer darparu Meic. Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol yw Meic sy’n darparu un pwynt cyswllt i blant a phobl ifanc drwy rif ffôn am ddim, negeseua gwib a thestun.

 

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

 

Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a’n gweledigaeth i Gymru. Credwn y dylai pob unigolyn gael ei drin yn deg, yn enwedig y rhai sy’n cael eu gwthio fwyaf i gyrion cymdeithas gan systemau cymdeithasol sy’n atal pobl rhag diwallu eu hanghenion sylfaenol. Rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal, i sicrhau mynediad tecach i wasanaethau a chyfleoedd cymorth i bawb.

 

Mae’r camau gweithredu mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wella canlyniadau i bobl a chymunedau yng Nghymru i’w gweld yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-20 a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016. Mae’r Cynllun yn cyd-fynd â ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Mae cyllideb Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gweithgareddau canlynol:

 

Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant – cefnogi Amcanion Cydraddoldeb 2016-20 a nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Rhaglen yn ariannu saith asiantaeth arweiniol i ddarparu cymorth i unigolion a chymunedau ledled Cymru mewn perthynas â rhywedd (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru); anabledd (Anabledd Cymru); Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Tros Gynnal Plant); ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Cyngor Ffoaduriaid Cymru); cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (Stonewall Cymru); hil (EYST) a throseddau casineb (Cymorth i Ddioddefwyr Cymru).

 

Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth arbenigol ar y materion dan sylw drwy dimau pwrpasol ym mhob sefydliad, mae’r asiantaethau arweiniol yn cydweithio hefyd i ddatblygu dulliau mwy cydgysylltiedig ar faterion trawsbynciol sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Disgwylir i’r cydweithio hwn ddatblygu ymhellach dros oes y rhaglen, a fydd yn cael ei gefnogi gan gyfarfodydd rhwydweithio chwarterol a chylchlythyr a rennir.

 

Cyfraniad at Grant Cydlyniant Cymunedol - Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu gwaith Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, sydd wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol. Mae wyth Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol yn gweithio’n rhanbarthol ar draws y 22 awdurdod lleol, gan ddarparu gwasanaeth Cymru gyfan i gefnogi Cynllun Cyflawni Cenedlaethol Cydlyniant Cymunedol. Caiff £0.36 miliwn y flwyddyn ei ddyrannu i’r maes gwaith hwn, gyda’r £0.2 miliwn ychwanegol yn dod o’r gyllideb Cydlyniant Cymunedol.

 

Cyfraniad at Grant Gwasanaethau Cyngor Rheng Flaen – wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer darparu cyngor arbenigol ar wahaniaethu.

 

Rhaglen Waith Cydraddoldeb- yn cynnwys rhaglen waith i ddatblygu ein ffocws ar gydraddoldeb, cynhwysiant a chydlyniant cymunedol, gan weithio tuag at Gymru fwy cyfartal  ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys digwyddiadau, fforymau a grwpiau; cyhoeddiadau a chyfieithu; a chyfathrebu, ymgynghori, ymgysylltu ac adolygu. Mae hefyd yn cynnwys cyllido gweithgarwch ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ac arian ar gyfer rhaglen a ddarperir drwy UpRising Cymru.

 

Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb - mae’r Grŵp wedi gwneud gwaith buddiol iawn mewn cyllidebau olynol o ran helpu i wella sail tystiolaeth cydraddoldeb a deall beth sydd fwyaf pwysig i bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae’r gwaith hwn wedi darparu llwyfan pwysig ar gyfer paratoi cyllidebau dros y blynyddoedd.

 

Elfen allweddol o waith y Grŵp oedd darparu dealltwriaeth o broses Cyllidebau Llywodraeth Cymru ei hun, yr amgylchedd economaidd cyfredol, a’r cyfyngiadau mae’r rhain yn eu rhoi ar ein hystyriaethau cydraddoldeb. Mae hyn wedi creu ffocws cryf ar bwysigrwydd datblygu sail tystiolaeth gadarn a chryf, er mwyn gallu nodi a deall problemau sylfaenol ym maes cydraddoldeb. Mae wedi helpu i wella’r Asesiad o Effaith y Gyllideb dros amser, gan olygu ei fod yn asesiad mwy integredig, sy’n cwmpasu Hawliau Plant, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, anfantais economaidd-gymdeithasol a’r Gymraeg, yn ogystal â chydraddoldeb.

 

Mae rôl y Grŵp yn cael ei datblygu yn sgil y broses gyllideb ddau gam newydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cytuno ar gynllun gwaith amlinellol ar y cyd gyda’r grŵp ar gyfer 2018, yn cynnwys dau gyfarfod ym mis Chwefror a mis Gorffennaf, a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar bum blaenoriaeth drawsbynciol Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol.

Cyflenwad tai

Fel y nodwyd yn y trosolwg o’r gyllideb rwy’n parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y tymor llywodraeth hwn, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer tai cymdeithasol a thai’r farchnad agored. Dros y tymor Cynulliad hwn byddaf yn buddsoddi dros £1.4 biliwn mewn tai, sy’n dangos fy ymrwymiad i ddarparu tai boddhaol a all wella bywydau pobl. Dangosir yr ymrwymiad hwn i dai ymhellach wrth iddo gael ei gynnwys fel blaenoriaeth drawsbynciol yn Ffyniant i Bawb.

Bydd o leiaf 6,000 o gartrefi’n cael eu darparu drwy gynllun llwyddiannus Cymorth i Brynu – Cymru. Rwy’n buddsoddi £290 miliwn yn y rhaglen hyd at 2021. Er mwyn cefnogi’r rhai sy’n gallu fforddio rhent y farchnad, ond nad oes ganddynt ddigon o flaendal i brynu cartref yn y ffordd draddodiadol, rwy’n lansio cynlluniau Rhentu i Brynu a rhanberchnogaeth yn 2018.

Ym mis Medi cynyddwyd y cyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Datblygu Eiddo o £10 miliwn i £40 miliwn. Mae’r Gronfa’n darparu cyllid benthyciad i BBaChau adeiladu cartrefi.

Byddaf yn cynnal fy nghymorth ar gyfer Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol gan mai dyma’r brif ffynhonnell cymhorthdal ar gyfer darparu tai fforddiadwy yng Nghymru a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at y targed o 20,000. Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio Cytundebau Tai gyda chyrff y sector preifat a’r sector cyhoeddus i helpu i ddarparu’r 20,000 o gartrefi rydym wedi ymrwymo iddynt ar draws tenantiaethau.

Cymorth i Brynu - Cymru

Drwy gefnogi perchentyaeth a chynyddu’r cyflenwad o dai newydd, mae Cymorth i Brynu - Cymru yn cefnogi miloedd o swyddi, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau, yn ogystal ag ysgogi twf yn y sector pwysig hwn o’n heconomi. Ar 30 Mehefin, roedd 5,482 o dai wedi’u prynu drwy’r cynllun - tua thri chwarter ohonynt wedi’u prynu gan brynwyr tro cyntaf.

Rhentu i Brynu

Mae swyddogion wrthi’n ystyried sut i ddatblygu’r cynllun Rhentu i Brynu. Maent wedi edrych ar raglenni tebyg ledled y DU ac wrthi’n modelu sut i weithredu hyn. Mae’r cynllun Rhentu i Brynu yn cynnig llwybr i brynu tŷ i’r rhai sy’n gallu talu’r taliad misol ond nad oes ganddynt flaendal o reidrwydd.

Troi Tai’n Gartrefi

Mae cynllun llwyddiannus Troi Tai’n Gartrefi eisoes wedi cynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod 7,500 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol

Mae’r Grant Tai Cymdeithasol yn cyllido cynlluniau tai sy’n diwallu anghenion lleol a blaenoriaethau a nodwyd gan awdurdodau lleol. Mae’r Grant yn cael ei ddarparu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a gellir ei ddefnyddio i ddarparu tai i’w rhentu neu berchentyaeth cost isel drwy adeiladu tai newydd neu ddefnyddio adeiladau cyfredol.

 

Y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yw’r brif ffynhonnell cymhorthdal ar gyfer darparu tai fforddiadwy yng Nghymru a bydd yn cyfrannu’n sylweddol at darged y Llywodraeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

 

Grant Cyllid Tai

Bydd Grant Cyllid Tai 2 yn darparu ffrwd refeniw flynyddol i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer helpu gyda chostau benthyca arian i ddatblygu cartrefi fforddiadwy newydd. Bydd y cynllun yn darparu 1,500 o gartrefi newydd yn y tymor llywodraeth hwn.

Grant Tai Fforddiadwy

Bydd Grant Tai Fforddiadwy yn cefnogi awdurdodau lleol sy’n cadw stoc o dai ac sy’n datblygu eu rhaglenni adeiladu tai cyngor newydd eu hunain. Rwyf wedi dyrannu £2.5 miliwn o gyllid refeniw y flwyddyn am y 30 mlynedd nesaf i helpu’r awdurdodau dalu costau datblygu’r cartrefi newydd hyn.

Cynllun Tir ar gyfer Tai

Hyd yn hyn, darparwyd cyllid benthyciadau o £32 miliwn (ledled Cymru) i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gaffael tir, i gefnogi’r gwaith o adeiladu hyd at 2,140 o gartrefi newydd.

Cronfa Datblygu Eiddo

Mae’r Gronfa Datblygu Eiddo’n darparu benthyciadau i BBaChau, sy’n golygu eu bod yn gallu cael cyllid fforddiadwy a fydd yn helpu mwy o gwmnïau lleol i adeiladu cartrefi newydd. Cyhoeddwyd £30 miliwn arall ym mis Medi sy’n rhoi hwb i’r gronfa ac a fydd yn darparu mwy o gymorth i hyd yn oed mwy o ddatblygwyr bach a chanolig. Mae’r prosiectau defnydd cymysg a phreswyl y gellir eu cyllido’n cael effaith uniongyrchol ar eu cymunedau lleol drwy gyfleoedd cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ogystal â darparu tai o safon mawr eu hangen.

 

Rhaglen Tai Arloesol

Bydd y Rhaglen Tai Arloesol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn cael ei chyllido gyda £20 miliwn dros 2017-18 a 2018-19 i ddechrau i annog y gwaith o ddatblygu a darparu modelau newydd o dai arloesol yng Nghymru fel rhan o’r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd.

Bydd y cynllun yn cyllido cartrefi arloesol ac yn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am y math o gartrefi y dylai eu cefnogi yn y dyfodol. Nod y Rhaglen gystadleuol hon yw annog cynlluniau ar draws pob math o ddeiliadaeth a chan bob math o ddatblygwr posibl o landlordiaid i bob sy’n adeiladu eu tai eu hunain.

Sefydlwyd y rhaglen i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy fel rhan o’r targed 20,000. Bydd y modelau newydd hyn yn mynd i’r afael â heriau allweddol fel cynyddu cyflymder darparu a chyflenwad cartrefi o safon, tlodi tanwydd a nodi technolegau galluogi yn y tymor hirach i gefnogi’r gwaith o ddatgarboneiddio adeiladau yng Nghymru.

Mae egwyddorion craidd y Rhaglen yn seiliedig ar saith elfen Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae manyleb dechnegol y Rhaglen yn sefydlu fframwaith gwerthuso ar gyfer asesu ac ystyried ceisiadau am gymorth gan y Rhaglen.

 

Safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cymeradwyo Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn hyn, sydd wedi nodi angen am 237 o safleoedd preswyl a 33 safle tramwy cyn 2021. Dyrannwyd cyllideb o £26.4 miliwn ar gyfer 2017-2021 i fynd i’r afael â’r anghenion hyn, yn dilyn proses gydweithio lle gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno eu galw disgwyliedig am gyllid ym mhob blwyddyn ariannol.

Darperir cyllid ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol i alluogi awdurdodau lleol i gydymffurfio â’u dyletswydd i ddarparu safleoedd ar gyfer yr anghenion a nodwyd mewn Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. Cyflwynwyd y ddyletswydd hon o dan Ran 3 Deddf Tai (Cymru) 2014. Felly, mae’r cyllid hwn yn cydymffurfio ag Egwyddorion Cyllido Beichiau Newydd Llywodraeth Cymru.

Ni ragwelir y bydd pob un o’r 237 o safleoedd preswyl yn cael eu cyllido gan fod safleoedd bach sy’n eiddo preifat yn cael eu hannog hefyd. Mae’n well gan aelodau cymunedau’r rhain yn aml ac ni fyddent yn golygu costau i’r pwrs cyhoeddus.

Cynhelir cylch ceisiadau blynyddol i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau, sy’n cael eu hasesu yn erbyn casgliad o feini prawf yn cynnwys gwerth am arian a chydymffurfiaeth â chanllawiau Cynllunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a Grant Cyfalaf Safleoedd.

Ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) yn 2014 ariannwyd 60 safle newydd ledled Cymru a buddsoddwyd yn sylweddol mewn safleoedd awdurdod lleol cyfredol i wella amodau byw i drigolion. Mae hyn yn cymharu â datblygu dim safleoedd newydd yn yr 17 mlynedd blaenorol.

Cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd

Atal digartrefedd yn y lle cyntaf yw craidd Deddf Tai 2014, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Darparodd y Grant Rhaglen Atal Digartrefedd gyllid trosiannol i awdurdodau lleol i weithredu eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf ac mae’n cefnogi sefydliadau statudol a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i atal digartrefedd.

Mae polisïau Llywodraeth y DU ar Ddiwygio Lles yn effeithio ar lefelau digartrefedd yng Nghymru. Mae unigolion a theuluoedd yn cael trafferth cadw eu tai; mae nifer cynyddol o bobl mewn perygl o ddigartrefedd ac yn gofyn am gymorth gan awdurdodau lleol ac yn cysgu ar y stryd, sef y testun pryder mwyaf.

Mae deddfwriaeth yn cael effaith gadarnhaol; rhwng 2015-16 a 2017-18 cynyddodd y nifer y llwyddwyd i’w hatal rhag mynd yn ddigartref o 4,599 i 5,718, tra cynyddodd nifer yr aelwydydd digartref a ail-gartrefwyd yn llwyddiannus o 3,108 i 4,500.

Fodd bynnag, er bod nifer y bobl a dderbyniodd gymorth wedi cynyddu, felly hefyd y nifer sy’n gofyn am gymorth, wrth i bwysau ar dai fforddiadwy ddwysáu. O ganlyniad, gostyngodd cyfradd atal llwyddiannus o 65% yn 2015-16 i 62% yn 2016-17. Yn yr un modd, gostyngodd cyfradd y rhai nad ydynt ddigartref mwyach o 45% i 41% dros y cyfnod hwn.

Mae pob aelwyd sy’n mynd yn ddigartref yn effeithio ar deuluoedd; mae unigolion mewn perygl o golli cysylltiad â’r GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg. Mae hyn yn gostus i bobl y mae eu hiechyd a’u haddysg yn dirywio ac yn arwain at fwy o gost i’r pwrs cyhoeddus. Dyma pam ein bod wedi rhoi mwy o gyllid i atal digartrefedd.

Mae cynnydd mewn cyllid wedi’i dargedu at awdurdodau lleol yn ogystal â thrwy grant penodol Llywodraeth Cymru. Daeth adroddiad gwerthuso interim diweddar gan Brifysgol Salford i’r casgliad canlynol “national stakeholders were overwhelmingly positive about the implications of the Act and welcomed its introduction and implementation. Stakeholders felt that the legislation offered a clearer framework for local authorities and partners to work in; provided the opportunity for earlier interventions; strengthened the prevention focus; engendered a change in the culture of local authority homelessness services; and improved the outcomes for people who are homeless/threatened with homelessness.” Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn dangos bod awdurdodau lleol yn dibynnu ar gyllid trosiannol gan Lywodraeth Cymru i gynnal canlyniadau yn erbyn pwysau cynyddol. Bydd £6 miliwn ychwanegol bob blwyddyn o gyllid newydd drwy’r Grant Cynnal Refeniw yn sicrhau y gall awdurdodau lleol ymgorffori eu dulliau ataliol, adeiladu ar eu llwyddiant hyd yn hyn a bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau.

Rhaglen Cefnogi Pobl

Mae Cefnogi Pobl yn darparu cymorth i dros 60,000 o bobl barhau i fyw’n annibynnol bob blwyddyn. Mae darparu tŷ sefydlog i bobl yn diwallu un o’n hanghenion mwyaf sylfaenol ac yn sail i alluogi unigolion i ffynnu. Dyna pam rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn Cefnogi Pobl. Mae’r rhaglen wedi datblygu capasiti a gallu Llywodraeth Cymru i gyfeirio darpariaeth i ble mae ei angen ac yn destun edmygedd gan awdurdodaethau eraill y DU.

Mae yna sector o ddarparwyr cymysg sy’n darparu cymorth arloesol o ansawdd uchel i unigolion. Mae’r dystiolaeth yn tyfu ynghylch effaith y cymorth hwn a’i werth ym marn defnyddwyr gwasanaethau. Ond er hynny mae lle i wella. Mae yna le bob amser i geisio cyrraedd safon sy’n cyd-fynd â’r ddarpariaeth orau a sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu lle mae fwyaf effeithiol.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod gwerth y rhaglen ond yn nodi angen i gyflymu’r broses o ddatblygu Cefnogi Pobl ac rwy’n derbyn y canfyddiadau hyn. Ar ôl ymgynghori ar ganllawiau gwell a fframwaith canlyniadau diwygiedig hefyd, rwyf hefyd yn ystyried atebion arloesol eraill yn ein dull o reoli Cefnogi Pobl a fyddai’n helpu i sicrhau bod yr holl weithgarwch yn canolbwyntio ar wella.

Mae Rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu i amddiffyn rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol ac wedi diogelu’r gyllideb honno. Rydym yn parhau i wneud yr hyn a allwn i ddiogelu cyllidebau ond mae’r cyni a achosir gan benderfyniadau yn Whitehall yn gwneud y dasg hon yn fwyfwy anodd. O ganlyniad i gytundeb y Gyllideb gyda Phlaid Cymru, rydym wedi gallu canfod £10 miliwn i gynnal y rhaglen werth £124 miliwn hon yn llawn yn 2018-19 a 2019-20.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd rôl ataliol Cefnogi Pobl o ran achub meysydd cyllideb eraill, yn wahanol i rannau eraill y DU. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cynnal y grant i ddiogelu gwasanaethau a’r bobl agored i niwed sy’n derbyn cymorth gan y cyllid hwn.

Mae penderfyniadau cyllido a chomisiynu gwasanaethau’n parhau ar lefel rhanbarthol a lleol, gan mai awdurdodau lleol a’u partneriaid sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau. Rwy’n parhau i annog awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid i chwilio am arbedion er mwyn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn gallu cael cymaint o effaith â phosibl a chynnal canlyniadau cadarnhaol i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau Cefnogi Pobl.

Adfywio

Mae buddsoddiad adfywio wedi’i dargedu yn gwneud cyfraniad hollbwysig at hyrwyddo ffyniant a meithrin cymunedau cydnerth ym mhob rhan o Gymru, yn hytrach na dim ond mewn ardaloedd sy’n cynnig yr elw masnachol mwyaf. Mae yna heriau penodol o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datblygu cymunedau bywiog, hyfyw, cynaliadwy â chysylltiadau da mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd neu sydd wedi’u difetha gan ddiwydiannau trwm cynharach. Rwy’n cydnabod hefyd bod yna heriau gwahanol mewn ardaloedd gwledig.

Rwy’n ceisio datblygu rhaglen o fuddsoddiad adfywio wedi’i dargedu yn y cymunedau hynny sydd â’r nod o hyrwyddo adfywiad economaidd. Mae gan awdurdodau lleol, trwy weithio â rhanddeiliaid ehangach ac ymgysylltu’n agos â chymunedau, gyfraniad allweddol i’w wneud o ran nodi blaenoriaethau a chyflawni prosiectau ar y cyd ar lawr gwlad. Yr her rwy’n ei rhoi i’n partneriaid yw iddynt fod yn uchelgeisiol ac arloesol wrth ddatblygu cyfleoedd newydd i hyrwyddo adfywiad a lledaenu ffyniant. Hoffwn weld cynigion buddsoddi gyda sail economaidd gryf a chlir ar gyfer adfywio – sy’n creu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gyda gwell sgiliau a chyflogadwyedd yn ganolog i’r cynigion – ac yn targedu unigolion ac ardaloedd sydd angen cymorth fwyaf.

Yn unol ag agenda diwygio llywodraeth leol mae awdurdodau lleol yn cydweithio ar lefel ranbarthol ac mae trefniadau llywodraethu’n datblygu. Mae momentwm yn cynyddu gydag awdurdodau lleol, a’u partneriaid, yn ystyried blaenoriaethau buddsoddi y tu hwnt i’w ffiniau traddodiadol. Mae’r llwyfan rhanbarthol yn gam cyntaf pwysig yn y daith a hoffwn weld cynigion adfywio’r dyfodol yn cael eu blaenoriaethau ochr yn ochr ag ystyriaethau rhanbarthol ehangach, fel Bargeinion Dinesig, Tasglu’r Cymoedd, Ceisiadau Twf a Wylfa Newydd, er enghraifft.  Bydd y Cynlluniau Adfywio Rhanbarthol yn cyfuno’r ystyriaethau strategol ehangach hyn ac yn gosod y cyd-destun ar gyfer gweithgarwch prosiectau adfywio. Rwy’n bwriadu datblygu dull hirdymor o gefnogi buddsoddiad adfywio ledled Cymru gan ddarparu cyllideb o tua £100 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn cynnwys ail-fuddsoddi cyllid o Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio i gefnogi’r rhaglen.

 

Adeiladu ar gyfer y Dyfodol:

Bydd Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn helpu gydag adfywio canol trefi a’r ardaloedd o’u cwmpas drwy fynd i’r afael â thir diffaith neu adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Bydd y rhaglen, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn caffael, adnewyddu neu ailddatblygu tir ac adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio sydd o fewn neu’n agos i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru (yn enwedig y gorllewin a’r cymoedd).

Cynlluniwyd y rhaglen i greu swyddi a thwf ac i gyfrannu at fynd i’r afael ag agenda trechu tlodi. Felly mae cysondeb helaeth rhwng y rhaglen a blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru.

Mae Adeiladu ar gyfer y Dyfodol wedi derbyn cyllid ERDF drwy Flaenoriaeth 4: Cysylltedd a Datblygu Trefol. Yr amcan penodol yw darparu mwy o swyddi drwy fuddsoddi mewn seilwaith lleol neu ranbarthol wedi’i flaenoriaethu gan gefnogi strategaeth economaidd ranbarthol neu drefol.

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â strategaeth adfywio gyffredinol Llywodraeth Cymru fel y’i gwelir yn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Bydd amcanion y rhaglen yn helpu i gyflawni’r weledigaeth o sicrhau y gall pawb yng Nghymru fyw mewn cymuned lewyrchus, cynaliadwy, llawn addewid, sydd â chysylltiadau da, economi leol gref ac ansawdd bywyd da.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol i flaenoriaethu a datblygu cynigion ledled y gorllewin a’r cymoedd. Mae’r rhagolygon cyfredol yn awgrymu y bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer dros 1,800 o swyddi, yn creu dros 650 o swyddi, yn cynnwys dros 240 o hyfforddiaethau ar brosiectau, yn darparu safleoedd i dros 140 o fentrau a thros 58,000 m2 o adeiladau wedi’u hadnewyddu.

Dyrannwyd £38 miliwn o gyllid ERDF i Adeiladu ar gyfer y Dyfodol ynghyd ag £16 miliwn o Gyllid Cyfatebol wedi’i Dargedu a chyfraniadau gan ffynonellau’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Bydd cyfanswm cost y rhaglen yn dibynnu ar y gymysgedd derfynol o gynigion a gymeradwyir; ond bydd hyn dros £100 miliwn.

Gofal a Thrwsio

 

Asiantaethau Gwella Cartrefi

 

Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau yn cynnwys cymorth ymarferol o fewn proses grantiau adnewyddu cartrefi, rheoli gwaith adeiladu, cyngor ar gontractwyr ag enw da a gofal cymdeithasol. Mae gan y rhan fwyaf o’r asiantaethau fentrau ‘Diogelwch yn y Cartref’ a chynlluniau tasgmon ar gyfer tasgau trwsio bychain ond pwysig. Yn 2016-17, darparwyd cymorth i 27,690 o bobl hŷn.

 

Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio rheng flaen yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r gyllideb. Maent yn darparu gwasanaethau i helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n ddiogel ac mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Mae yna asiantaethau Gofal a Thrwsio ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae’r gwasanaeth yn eang, ac yn cynnwys cymorth ymarferol gyda gwelliannau i’r cartref, rheoli gwaith adeiladu a chyngor ar gontractwyr addas.

Mae cyllid grant yn darparu ar gyfer costau rhedeg craidd Gofal a Thrwsio Cymru a’r asiantaethau. Gall asiantaethau unigol gael cyllid gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyrff y sector iechyd hefyd, neu drwy gynhyrchu refeniw eu hunain. Mae’r cyllid grant ar gyfer gwasanaethau craidd yn £3.935 miliwn yn 17-18, 18-19 a 19-20.

 

 


 

Rhaglen Addasiadau Brys

 

Mae’r Rhaglen Addasiadau Brys yn dangos pwysigrwydd cydnabod y cysylltiad rhwng tai ac iechyd, yn cynnwys sut y gallai rhywbeth mor fach â chanllaw neu ramp bychan helpu’r Gwasanaeth Iechyd i arbed arian a lleihau peryglon o oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty.

Mae’r Rhaglen Addasiadau Brys yn enghraifft ragorol arall o sut y gall gwasanaethau Iechyd a Thai gydweithio i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Darperir £2.020 miliwn i’r rhaglen yn 17-18, 18-19 a 19-20. Mae hwn yn cynnwys £1.641 miliwn o gyfalaf a £0.379 miliwn o refeniw.

 

 

Addasiadau i Dai a gweithredu Hwyluso – Cymorth ar gyfer Byw’n Annibynnol

 

Bob blwyddyn mae tua £50 miliwn yn cael ei wario ar addasu cartrefi pobl hŷn a phobl anabl, gan eu helpu i fyw’n ddiogel ac annibynnol. Mae’r addasiadau hyn yn cael eu hariannu fel a ganlyn:

·         Mae awdurdodau lleol yn darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a chyllid arall; Cyllid Cyfalaf Cyffredinol heb ei neilltuo’n bennaf.

·         Mae cymdeithasau tai’n darparu cymorth ar gyfer mân addasiadau i’w tenantiaid eu hunain.

·         Gall cymdeithasau tai traddodiadol fod yn gymwys am gyllid cyfalaf ar gyfer Grantiau Addasiadau Ffisegol gan Lywodraeth Cymru.

·         Mae cymdeithasau Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr yn darparu cymorth i’w tenantiaid drwy eu cynlluniau busnes a chytundebau ag awdurdodau lleol.

·         Darperir symiau llai o gyllid i bobl anabl hŷn drwy’r Rhaglen Addasiadau Brys a gyflawnir gan Asiantaethau Gofal a Thrwsio sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru’n bennaf.

Cafodd Hwyluso ei ddatblygu a’i gyflwyno yn 2016-2017 mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â’r prif bryderon a’r meysydd i’w gwella a nodwyd yn yr Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol. Ei nod yw gwella’r trefniadau cyfredol drwy ei gwneud hi’n ofynnol i bob darparwr weithio yn yr un ffordd a monitro darpariaeth mewn fformat safonol. Mae’r rhaglen yn helpu i lenwi bylchau mewn darpariaeth hefyd i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau’n cael gwasanaeth addasu symlach. 

Bydd pob darparwr yn parhau i gynnig addasiadau drwy’r un dulliau cyllido ag o’r blaen, h.y. Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, Grantiau Addasiadau Corfforol, Rhaglen Addasiadau Brys, neu unrhyw gynlluniau eraill maent yn eu gweithredu. Er mwyn helpu i gefnogi gweithrediad y cynllun a’r newidiadau trosiannol angenrheidiol, darparwyd £4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn 2016-2017. Mae’r gyllideb yn parhau i fod yn £4 miliwn ar gyfer 17-18, 18-19 a 19-20.

 

Cartrefi Cynnes ar Bresgripsiwn

 

Dechreuodd cynllun peilot Cartrefi Cynnes ar Bresgripsiwn ym mis Tachwedd 2016 gan alluogi gweithwyr meddygol proffesiynol i roi presgripsiwn am foeleri newydd i gleifion sydd mewn tlodi tanwydd sy’n dioddef o gyflyrau cronig sy’n mynd yn waeth mewn cartrefi oer. Ym mis Ionawr 2017, ymestynnwyd y cynllun peilot i 2017-18 er mwyn ei ddatblygu ymhellach a darparu gwybodaeth am ei gyflawniadau, i lywio penderfyniadau ar barhad ac ehangu’r cynllun i weithredu ar lefel genedlaethol.

 

Dangosodd tystiolaeth o raglen beilot debyg gan Lywodraeth y DU ostyngiad o 28% mewn apwyntiadau meddyg teulu a gostyngiad o 33% mewn apwyntiadau cleifion allanol. Cafwyd gostyngiad hefyd yn y defnydd o nwy ac arbedion ar filiau nwy misol.

 

Yn dilyn canlyniadau’r cynllun peilot byddwn yn ystyried a allai unrhyw raglen hirdymor gysylltu â rhaglenni arbed ynni ac addasiadau cartref eraill a darparu gwybodaeth ar gyfer eu targedu.

Rhentu Doeth Cymru

Dynodwyd Cyngor Dinas Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu Unigol i redeg Rhentu Doeth Cymru ar ran yr holl awdurdodau lleol. Dechreuodd Rhentu Doeth Cymru weithredu ym mis Rhagfyr 2015.

Mabwysiadwyd dull ‘ysgafn’ yn fwriadol yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r gofynion newydd. Buom yn cydweithio’n agos â Chaerdydd, yr holl awdurdodau lleol, CLlLC a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu a gweithredu’r cynllun, yn enwedig y gwaith cyfathrebu. Daeth y rheoliadau gorfodi i rym fis Tachwedd y llynedd.

Mae tîm Rhentu Doeth Cymru a phob awdurdod lleol yn gweithio’n galed i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd ac annog cydymffurfiaeth. Mae camau gorfodi’n cael eu cymryd hefyd pan nad yw ceisiadau i gydymffurfio’n cael eu bodloni.

Darparwyd cyllid i awdurdodau lleol (£0.3 miliwn yn 2015-16. £0.5 miliwn yn 2016-17 a £0.275 miliwn yn 2017-18) i helpu i gefnogi’r gweithgareddau hyn a’u datblygu a’u cynnal er mwyn sicrhau cymaint o effaith â phosibl ac nad yw prinder adnoddau’n effeithio ar yr ymrwymiad i sicrhau llwyddiant y cynllun. Rydym yn cyrraedd pwynt hollbwysig yn y broses orfodi yn awr h.y. nodi’r landlordiaid hynny sy’n dal i osgoi radar Rhentu Doeth Cymru ac am y rheswm hwn mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol yn y gwaith hwn. Mae’r gyllideb yn cynnwys £0.275 miliwn yn 2018-19 a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu awdurdodau lleol i ddod o hyd i landlordiaid ac asiantiaid nad ydynt yn cydymffurfio, a’u herlyn lle bo angen.

Y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai

Mae £1.8 miliwn o gyllid yn cael ei ddarparu dros dair blynedd o 2016-17 ar gyfer y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai. Mae hwn yn cynnwys Arolwg o Gyflwr Tai yn 2017-18, a fydd yn ystyried ansawdd y stoc ar draws pob math o ddeiliadaeth. Bydd y data cyntaf ar lefel genedlaethol ar gael yn hydref 2018.

Bydd y data gwell fydd yn cael ei gasglu a’i goladu gan y Rhaglen yn sail i ddau o’r Dangosyddion Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru (cartrefi sy’n rhydd rhag peryglon a chartrefi sydd â mesurau effeithlonrwydd ynni digonol) ac felly, bydd hyn yn cyfrannu at y broses fonitro ehangach o’n cynnydd fel cenedl yn erbyn y nodau llesiant. Mae’r Rhaglen yn cael ei datblygu a’i chynnal mewn modd cydweithredol, gyda chynrychiolaeth eang o sefydliadau’r sector cyhoeddus ar bob lefel o lywodraethu’r rhaglen a gwaith ymgysylltu manwl â rhanddeiliaid.

 

Gwasanaethau cyfranogiad tenantiaid

Mae Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS) yn cael ei ariannu fel y corff cynrychioladol ar gyfer tenantiaid yng Nghymru. Mae’r rhaglen waith y cytunwyd arni gyda TPAS Cymru yn cynnwys darparu cyngor a chanllawiau i ddatblygu a hyrwyddo cyfranogiad yn y sector rhentu preifat, ar y cyd â sefydliadau partner yn cynnwys Rhentu Doeth Cymru, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl a Shelter Cymru. Mae TPAS Cymru yn aelod o’r Undeb Tenantiaid Rhyngwladol hefyd.

 

Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae 177,219 o gartrefi cymdeithasol (79% o’r stoc) yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru bellach. Rydym ar y trywydd iawn i sicrhau bod yr holl gartrefi’n ei fodloni erbyn dyddiad targed y Cabinet, sef 2020, ac yn ei chynnal wedyn. Bob blwyddyn, rydym yn darparu £108 miliwn i landlordiaid cymdeithasol drwy grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr a thaliadau gwaddoli llenwi bwlch i gefnogi’r broses o fodloni a chynnal y safon.

Deddfwriaeth Cymru

Mae asesu cost deddfwriaeth a’i heffaith ar y rhai yr effeithir arnynt yn rhan hanfodol o’r broses datblygu polisi. Rwy’n derbyn na ellir gwario faint a fynnir ar ddeddfwriaeth ac y bydd angen talu am bob ymrwymiad newydd yn y Prif Grŵp Gwariant hwn drwy dorri ar wariant yn rhywle arall.

Dyna pam fod pob bil yn destun asesiad trylwyr o gostau a buddion, a wneir drwy ymgynghori ac ymgysylltu â’n rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r asesiadau effaith rheoleiddiol sy’n cael eu paratoi ar gyfer Biliau’r Llywodraeth. Gwneir hyn i sicrhau bod ein penderfyniadau’n cael eu llywio gan farn y bobl y bydd y penderfyniadau’n effeithio arnynt.

Mae camau’n cael eu cymryd i wella eglurder a chysondeb Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ond bydd newidiadau i’r bil yn ystod gwaith craffu a ffactorau eraill yn arwain yn anochel at rai amrywiadau rhwng costau amcanyfrifiedig yng ngham cyhoeddi’r Asesiad a’r costau gwirioneddol yn ystod gweithredu. Yn unol ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i’r Pwyllgor Cyllid, cafodd tabl cymharu blynyddoedd yn dangos cost deddfwriaeth i Lywodraeth Cymru ei gynnwys fel rhan o’r gyllideb ddrafft fanwl a gyhoeddwyd ar 24 Hydref.

 

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Pan fydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith bydd y broses o rentu cartref yn symlach ac yn haws. Bydd yn cyflwyno un fframwaith cyfreithiol clir yn lle’r darnau amrywiol a chymhleth o ddeddfwriaeth gyfredol. O dan y fframwaith hwn bydd gofyn i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau’r landlord a deiliad y contract o dan y ‘contract meddiannaeth’.

Bydd hyn yn cynnwys dyletswydd ar landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi, ar ddechrau a gydol y contract meddiannaeth. Bydd y ddyletswydd hon yn mynd i’r afael â’r amodau tai gwaethaf ac yn rhoi rhwymedigaethau ychwanegol ar landlordiaid, fel gosod larymau mwg a charbon monocsid a gofyniad i gynnal archwiliadau diogelwch trydan bob pum mlynedd.

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno rheoliadau ar benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi hefyd. Mae ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y rheoliadau hyn ar y gweill.

Mae’r Ddeddf yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau dros filiwn o bobl sy’n rhentu eu cartref yng Nghymru. Yn ogystal â darpariaethau ar gyfer anheddau ffit i bobl fyw ynddynt bydd y Ddeddf yn gwneud darpariaethau ynghylch troi allan er mwyn dial, hawliau olynu, cyd-gontractau a llety â chymorth. Am y rhesymau hyn mae’n bwysig bod landlordiaid, deiliaid contract a rhanddeiliaid yn llwyr ymwybodol o oblygiadau’r Ddeddf. Er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus dyrannwyd £140,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19 i dalu costau gweithgareddau cyfathrebu, hyfforddi a gwerthuso.

 

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Bydd diddymu’r hawliau hyn yn diogelu ein stoc tai cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n methu cael cartref drwy’r farchnad dai. Bydd y Bil, os caiff ei basio, yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd hefyd.

Nododd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a oedd yn cyd-fynd â’r Bil wrth ei gyflwyno gostau trosiannol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyflwyno’r wybodaeth am newid mewn polisi i landlordiaid cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru’n ad-dalu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am y gostyngiad ar werthiannau Hawl i Gaffael. Ar sail cyfansymiau 2015-16, amcangyfrifir y bydd ad-daliad o rhwng £72,000 a £88,000 yn cael ei wneud yn 2018-19. Ar ôl y cyfnod hysbysu o flwyddyn ni fydd rhagor o werthiannau Hawl i Gaffael yn digwydd, a fydd yn arbed tua £80,000 y flwyddyn i Lywodraeth Cymru o 2019-20 ymlaen.

Deddfwriaeth y DU

Derbyniodd Deddf Lleihau Digartrefedd Llywodraeth Cymru 2017 Gydsyniad Brenhinol eleni. Mae Llywodraeth y DU wedi diwygio ei deddfwriaeth i adlewyrchu ein dull ataliol ni’n fras. Nid oes disgwyl goblygiadau sylweddol o ran costau i Gymru yn sgil deddfwriaeth y DU.

 

 

 

 

 

 

 

 


PRIF GRŴP GWARIANT CYMUNEDAU A PHLANT                                                                                                                    ATODIAD A

CYLLIDEB ADNODDAU – Terfyn Gwariant Adrannol

Maes Rhaglenni Gwariant

Camau Gweithredu

Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000

Galluogi Plant a Chymunedau

Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth

Cefnogi Cymunedau

 

0

6,162*

Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth

0

252,153*

Cynhwysiant Ariannol

Cynhwysiant Ariannol

14,927

14,927

Cymorth ar gyfer y Sector Gwirfoddol a Gwirfoddoli

6,125

6,125

 

 

 

21,052

279,367

Cymunedau Mwy Diogel

Cadernid Gwasanaethau Tân ac Achub

Gwasanaethau Tân ac Achub

5,709

6,309

Diogelwch Tân Cymunedol

848

848

Swyddogion Cymorth Cymunedol

Swyddogion Cymorth Cymunedol

16,787

16,787

Cam-drin Domestig

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

5,000

2,562

Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc

Cyfiawnder Ieuenctid

4,420

0

Maes Rhaglenni Gwariant

Camau Gweithredu

Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000

 

 

 

32,764

26,506

 

 

 

 

 

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cydlyniant Cymunedol

200

0

Cydraddoldeb a Ffyniant

2,034

1,874

 

 

 

2,234

1,874

Polisi Tai

Cefnogi Pobl

Cefnogi Pobl

124,488

0

Atal Digartrefedd

Digartrefedd

9,907

7,907

Byw’n Annibynnol

Byw’n Annibynnol

5,159

4,884

 

 

 

139,554

12,791

Cartrefi a Lleoedd

Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai Fforddiadwy

Grant Cyllid Tai

11,400

13,100

Cyllid Refeniw Tai

Cyllid Refeniw Rhaglen Tai

1,073

1,073

Adfywio

Adfywio

560

560

Awdurdod Harbwr Caerdydd

5,400

5,400

 

 

 

18,433

20,133

 

 

CYFANSWM ADNODDAU

214,037

340,671

* Linellau Gwariant yn y Gyllideb newydd ar gyfer 2019-20. Efallai y bydd y Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth yn cael ei greu yn dilyn ymarfer ymgynghori gydag awdurdodau lleol i gyfuno cynlluniau grant cyfredol yn un cynllun i gynyddu hyblygrwydd cyllid.

PRIF GRŴP GWARIANT CYMUNEDAU A PHLANT                                                                                                                                          ATODIAD A

CYLLIDEB CYFALAF – Terfyn Gwariant Adrannol

Maes Rhaglenni Gwariant

Camau Gweithredu

Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000

Cymunedau a Threchu Tlodi

Cymunedau a Threchu Tlodi

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

9,816

8,300

5,000

Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

8,000

5,034

4,838

 

 

 

17,816

13,334

9,838

Cymunedau Mwy Diogel

Cadernid Gwasanaethau Tân ac Achub

Gwasanaethau Tân ac Achub

1,230

1,410

1,210

Diogelwch Tân Cymunedol

670

670

670

Cam-drin Domestig

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

969

969

969

 

 

 

2,869

3,049

2,849

Polisi Tai

Byw’n Annibynnol

Rhaglen Addasiadau Brys

5,660

5,660

5,660

Y Gronfa Gofal Integredig

Y Gronfa Gofal Integredig

10,000

15,000

20,000

 

 

 

15,660

20,660

25,660

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Camau Gweithredu

Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000

Cartrefi a Lleoedd

Sicrhau Tai o Ansawdd Uchel

Lwfans Atgyweiriadau Mawr a thaliadau gwaddoli llenwi bwlch

108,000

108,000

108,000

Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai Fforddiadwy

Grantiau Tai Cymdeithasol

207,137

123,219

110,147

Tir ar gyfer Tai (Trafodion Ariannol)

10,000

10,000

10,000

Gofal Ychwanegol

4,301

0

0

Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai’r Farchnad Agored

Cronfa Helpu i Brynu Cymru a Chynlluniau Eraill (Trafodion Ariannol)

88,748

63,067

34,700

Adfywio

Adfywio

21,921

28,662

36,808

 

 

 

440,107

332,948

299,655

 

 

CYFANSWM CYFALAF

476,452

369,991

338,002